|
Gwybodaeth
i Gleifion
|
|
| Mawrth
2000 |
|
| Dyddiad
arolygu 2003 |
|
|
Arweiniad ar Dynnu Cefnddannedd - Gwybodaeth i Gleifion |
| |
| Beth
yw Arweiniad NICE? |
| Mae'r
Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn rhan
o'r NHS. Mae'n defnyddio tîm o arbenigwyr sy'n llunio arweiniad
i'r NHS a chleifion ar feddyginiaethau, cyfarpar meddygol a gweithdrefnau
clinigol. Pan fydd y Sefydliad yn gwerthuso'r rhain, caiff ei alw'n
arfarniad. Mae pob arfarniad yn cymryd tua 12 mis i'w gwblhau ac
mae'n cynnwys gwneuthurwyr y dechnoleg, grwpiau cleifion a sefydliadau
proffesiynol.
Gofynnwyd
i NICE ystyried llawdriniaeth tynnu cefnddannedd a rhoi arweiniad
i'r NHS a fydd yn helpu deintyddion a llawfeddygon i benderfynu
pryd y dylid tynnu cefnddannedd.
|
| |
| Beth
yw Cefnddannedd a pham y ceir llawdriniaeth arnynt? |
| Fel
arfer mae dannedd oedolion yn dechrau dod trwodd ar ôl 6 mlwydd
oed, a'r cefnddannedd yw'r rhai olaf a fydd yn ymddangos (rhwng
18 a 24 mlwydd oed). Weithiau mae cefnddannedd yn achosi problemau
wrth iddynt ddod trwodd. Cefnddannedd Cywasgedig yw'r term a ddefnyddir
i ddisgrifio'r cefnddannedd hynny nad ydynt yn dod trwodd mewn modd
arferol. Dau reswm dros hyn yw diffyg lle neu oherwydd bod dannedd
eraill yn y ffordd. Nid yw cefnddannedd cywasgedig yn achosi unrhyw
broblemau o gwbl i'r rhan fwyaf o bobl ond gall rhai gael problemau
megis llid y deintgig o amgylch, risg uwch o bydredd yn y dannedd,
clefyd y deintgig mewn dannedd eraill a phroblemau posibl â
dannedd wrth dyfu'n hy^n.
Tynnu cefnddannedd
yw'r un o'r llawdriniaethau mwyaf cyffredin a wneir yn y DG. Weithiau
tynnir cefnddannedd cywasgedig waeth a oeddynt yn achosi problemau
ai peidio. Nid oes unrhyw dystiolaeth ddibynadwy bod cleifion
yn elwa ar gael llawdriniaeth ar gefnddannedd cywasgedig nad ydynt
yn achosi problemau. Mewn gwirionedd, mae rhywfaint o risg yn
perthyn i bob llawdriniaeth.
|
| |
| Beth
mae NICE yn ei argymell yngl n â thynnu Cefnddannedd? |
| Yn
seiliedig ar y dystiolaeth, mae NICE wedi gwneud yr argymhellion
canlynol i'r NHS: |
| 1. |
Ni
ddylid rhoi llawdriniaeth i gefnddannedd cywasgedig sydd yn rhydd
rhag heintiad (sef iach). Mae dau reswm dros hyn. |
| a) |
Nid
oes unrhyw dystiolaeth ddibynadwy bod cleifion yn elwa ar yr arfer
hwn. |
| b) |
Caiff
cleifion eu hamlygu i risgiau llawdriniaeth pan dynnir cefnddannedd
iach. Ymhlith y rhain y mae: |
| |
 |
niwed nerfol |
| |
 |
niwed
i ddannedd eraill |
| |
 |
heintiad |
| |
 |
gwaedu
ac |
| |
 |
yn
anaml, marwolaeth. |
| |
|
|
| Hefyd,
ar ôl cael llawdriniaeth tynnu cefnddannedd mae'n bosibl y bydd
cleifion |
| |
 |
yn dioddef o chwyddo a phoen |
| |
 |
yn methu ag agor y geg yn llawn. |
| |
|
|
| 2. |
Dylai
cleifion a chanddynt gefnddannedd cywasgedig nad ydynt yn achosi
problemau ymweld â'u deintydd ar gyfer eu harchwiliadau arferol. |
| |
|
| 3. |
Ni
ddylid tynnu cefnddannedd ond yn achos cleifion a chanddynt gefnddannedd
sy'n dioddef o glefyd neu broblemau geneuol eraill. Bydd eich deintydd
neu'ch llawfeddyg geneuol yn ymwybodol o'r math o glefyd neu broblem
a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i chi gael llawdriniaeth. Mae'r
enghreifftiau yn cynnwys: |
| |
|
 |
pydredd yn y dannedd na ellir ei drin |
 |
y
ddannedd waed |
 |
systiau
neu dyfiannau |
 |
clefyd
yn y meinweoedd o amgylch y dant |
 |
dant
yn rhwystro llawdriniaeth arall. |
| |
|
| Beth
ddylwn ei wneud? |
| Os
ydych chi, aelod o'ch teulu neu rywun rydych yn gofalu amdano yn
cael problemau gyda'r cefnddannedd dylech drafod y cyngor hwn gyda'ch
deintydd neu'ch llawfeddyg. |
| |
| A
fydd NICE yn arolygu ei arweiniad? |
| Bydd.
Caiff yr arweiniad ei arolygu ym mis Mawrth 2003. Fodd bynnag, mae
rhagor o ymchwil yn cael ei gwneud yn y maes hwn. Bydd NICE yn arolygu'r
canlyniadau i benderfynu a oes angen diweddaru'r arweiniad hwn. |
| |
| Gwybodaeth
bellach: |
| Mae
gwybodaeth bellach ar NICE ynghyd â'r arweiniad llawn a roddwyd
i'r NHS ar gael ar wefan NICE (www.nice.org.uk).
Gallwch wneud cais am y wybodaeth hefyd trwy ffonio 0541 555 455. |
| |
| |