Arweiniad ar dynnu cefnddannedd
   
1. Arweiniad
 
1.2 Ni ddylai'r NHS barhau â'r arfer llawfeddygol cyffredin o dynnu trydydd cilddant cywasgedig sydd yn rhydd o batholeg am resymau clwyfataliol.
 
1.3 Ar y cyfan, nid oes angen i raglenni safonol cyffredin ymarferwyr deintyddol a/neu s taff paraproffesiynol ar gyfer gofal deintyddol fod yn wahanol mewn achosion o drydydd cilddant cywasgedig sydd yn rhydd o batholeg (y rheini nad oes arnynt angen archwiliadau neu weithdrefnau ychwanegol).
1.4 Ni ddylid tynnu trydydd cilddant cywasgedig trwy lawdriniaeth ond yn achos cleifion lle mae tystiolaeth o batholeg. Ymhlith patholeg o'r fath, mae pydredd na ellir ei adfer, patholeg yn y bywyn a/neu beriapigol na ellir ei thrin, llid yr isgroen, y ddannoedd waed ac osteomyelitis, y dant neu'r dannedd cyfagos yn cael eu hatsugno'n fewnol/allanol, toriad yn y dant, clefyd yn y ffoligl gan gynnwys systiau neu dyfiannau, dant/dannedd yn rhwystro llawdriniaeth neu lawdriniaeth ailadeiladu'r ên, a phan fydd y dant o fewn maes echdoriad tyfiant neu'n rhan ohono.
1.5 Tynnir sylw yn benodol at ymddangosiad plac a phericoronitis. Mae ymddangosiad plac yn ffactor risg ond nid yw ynddo'i hun yn arwydd bod angen llawdriniaeth. Nid yw'n eglur i ba raddau y dylai dwyster pericoronitis neu pa mor fynych y mae'n dychwelyd ddylanwadu ar y penderfyniad i dynnu trydydd cilddant trwy lawdriniaeth. Yn ôl y dystiolaeth a gafwyd, ni ddylid ystyried yr achos cyntaf o bericoronitis, oni fydd yn un arbennig o ddifrifol, fel arwydd bod angen llawdriniaeth. Dylai'r achos nesaf neu'r achosion dilynol gael eu hystyried fel yr arwydd priodol bod angen llawdriniaeth.
   
Ceir Canllaw y Sefydliad ar Dynnu Cefnddannedd yn Adran 1. Mae gweddill y ddogfen yn rhoi gwybodaeth ar y canlynol:
   
1. Arweiniad (yn Gymraeg neu'n Saesneg)
2. Angen clinigol
3. Tystiolaeth
4. Goblygiadau i'r NHS
5. Ymchwil bellach
6. Gweithredu
7. Cyngor Archwiliad Clinigol
8. Arolygu Arweiniad
   
Atodiad A Pwyllgor Arfarnu
Atodiad B Ffynonellau Tystiolaeth
Atodiad C Gwybodaeth i gleifion